Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 5
Dyddiad: Dydd Llun, 14 Tachwedd 2022
Amser:
13.30 -
16.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13031
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Emma Wools, Heddlu De Cymru Nicola Davies, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi Victoria Harries, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi Dr Chantal Edge, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU Joanne Hopkins, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dee Montague-Coast, Triniaeth Deg i Fenywod Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant
2 Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol - sesiwn dystiolaeth dau
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan Dee Montague-Coast o Triniaeth Deg i Fenywod yng Nghymru, Jo Hopkins o Iechyd Cyhoeddus Cymru (Hỳb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod) a Dr Chantal Edge o Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU.
3 Profiadau menywod yn y System Cyfiawnder Troseddol – sesiwn dystiolaeth tri
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan Nicola Davies a Victoria Harries o Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi ac Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a Chadeirydd Grŵp Menywod mewn Cyfiawnder yng Nghymru.
4 Papurau i’w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
4.1 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cadeirydd ynghylch gohebiaeth gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru.
4.2 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Cyllideb Ddrafft 2023-2024
4.3 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-2024.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
6 Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol – trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn.
7 Y flaenragalen waith
Cytunodd yr Aelodau i ystyried y flaenraglen waith yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 21 Tachwedd 2022.